Galw am chwarae teg a mwy o sylw i ferched cyhyrog y genedl…

Mae un o ferched Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn anelu i ennill teitl y Gymraes Gryfa’ yn dweud bod “eisiau lot mwy o sylw” i ymdrechion a llwyddiant menywod yn y gamp, bod cystadlaethau’r dynion a’r merched yn “wahanol ball game” i’w gilydd a bod campau’r merched yn dal ymhell ar ei hôl hi o gymharu â’r dynion.