Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i newydd orffen comedi tywyll iawn Joanna Cannon, A Tidy Ending, ac ar hyn o bryd yn darllen Braw Agos gan Sonia Edwards. Dw i wrth fy modd gyda’i gwaith, ei dawn i sgrifennu’n delynegol a threiddgar, ac er bod y nofel ‘dditectif’ gyfoes hon fymryn yn wahanol, dydi hi ddim yn siomi.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd