Fe gamodd Nathan Broadhead oddi ar y fainc yn Split nos Sadwrn a sgorio gôl enfawr yn ei gêm gyntaf dros ei wlad.

Fe rwydodd yr ymosodwr o Fangor gyda 93 munud ar y cloc a’r gêm bron ar ben, gan gipio pwynt pwysig ac annisgwyl i’w wlad oddi cartref yn erbyn Croatia, un o dimau gorau’r byd.