Roedd pawb yn gwybod bod Cristnogaeth ar drai yng Nghymru, ond daeth cadarnhad o hynny drwy ffigurau’r Cyfrifiad a ryddhawyd wythnos diwethaf. Gostyngodd nifer y bobl a ddisgrifiai eu hunain fel Cristnogion gan 14%, lawr i 43.6%, wrth i nifer y bobl sy’n dweud nad ydyn nhw’n perthyn i unrhyw grefydd penodol gynyddu i 46.5%. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae gwlad y saint a’r capeli bellach yn un o wledydd lleiaf crefyddol nid yn unig Ewrop, ond y byd.