Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Jason Morgan yr wythnos hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Mae nifer o bobl wedi rhybuddio ers amser maith fod yna bydredd ym Mhlaid Cymru; pydredd sy’n treiddio drwyddi ac sy’n amharu ar ei gallu i wneud unrhyw beth mewn ffordd effeithlon, gall. Diolch i ymchwiliadau gan Will Hayward ar WalesOnline, mae o leiaf rywfaint o hynny wedi dechrau dod i’r amlwg.

Daw hyn yn sgîl diarddel Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru, am yr hyn a elwir yn “dorri’r côd ymddygiad”, ac yn ôl y BBC mae hyn yn “ymwneud â honiad difrifol am ei ymddygiad”. Cyfeiriwyd yn yr ymchwiliad at y ffaith bod “clîc” o gylch yr arweinydd presennol, Adam Price – grŵp digon main o unigolion sydd â grym enfawr dros brosesau’r Blaid sy’n eu gwneud yn gwbl ddiwerth (fel petai’r achosion lu o ddisgyblaeth ddiawledig a chamymddwyn dros y blynyddoedd heb ddangos hynny’n glir yn barod).

O’r herwydd, mae gweithwyr cyffredin y Blaid yn ofni codi materion dybryd, ynghyd â gwybod na ddaw dim o wneud hynny. Mae hyn wedi arwain at deimladau o bryder, a diwylliant o fwlio o sawl cyfeiriad. Yn wir, fe wnaeth unigolyn gyfres o dwîts yn ddiweddar yn manylu ar bethau mwy difrifol byth yn niwylliant y Blaid a’r goddefgarwch at ymddygiad amhriodol, na allaf eu hailadrodd yma.

Ddim yn annisgwyl

Ond wyddoch chi’r peth tristaf am hyn oll? Dydi o ddim yn syfrdan. Dydi o ddim yn annisgwyl. A dydi o ddim yn anhysbys. Yn rhy aml, mae’r sawl sy’n byw’n y swigen wleidyddol yn meddwl mai yno mae’r byd cyfan a nhw sydd â reolaeth lwyr arni. Maent, fodd bynnag, drwy drahauster a thwpdra, yn anghofio bod swigod yn dryloyw.

Yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn: mae’r problemau ym Mhlaid Cymru, ymddygiad rhai staff ac aelodau, yn hysbys y tu hwnt i dyrrau cyfyng y sawl sy’n meddwl fel arall. Mae’r digwyddiadau yn hysbys. Mae’r sïon yn hysbys. Ac mae’r gwir hefyd yn hysbys, heb sôn am y rhagrith yn ymatebion sawl un yn y Blaid i fater Jonathan Edwards, a’r mudandod ar gynifer o faterion eraill.

Nid oes ar y funud hon blaid sydd mor anhaeddiannol o’i chefnogwyr, ei hymgyrchwyr a’i selogion na Phlaid Cymru. Gyda’r un etholiad ar y gorwel, mae yna Aelodau o’r Senedd ac uwch aelodau o staff yn y Blaid sydd angen mynd, gan adael i’r sawl â rhyw fath o asgwrn cefn moesol ac ymdeimlad o’r hyn sy’n gywir ac yn anghywir, gael y cyfle i ail-adeiladu.

Dylent fynd cyn eu gwthio, a thrwy hynny roi i ni’r Blaid yr ydyn ni’n ei haeddu, nid y pydew sydd wedi datblygu, ac yn sicr waethygu, dan yr arweinyddiaeth bresennol.