Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar y golofn hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Dydi Chris Bryant ddim yn ddyn hawdd iawn i’w hoffi. Yn aml yn wrth-Gymraeg ac yn anghyfforddus ag unrhyw beth sy’n awgrymu bod Cymru’n genedl, dydi AS y Rhondda ddim at ddant nifer. Yn hunanbwysig a hunan-foddhaus, dydw i erioed wedi bod yn siŵr a ydi o’n coelio mewn unrhyw beth yn fwy na fo’i hun.

Er hynny, rhoddodd sylw at stori am driniaeth erchyll y cafodd dyn hoyw yn Qatar yn ddiweddar gan y gwasanaethau cudd, a dweud mai dyma pam na ddylai unrhyw swyddogion o’r Deyrnas Unedig fynd i Gwpan y Byd. Does yna fawr o amheuaeth fod hwnnw’n ymosodiad ar Mark Drakeford, â Bryant o adain lugoer at ddatganoli ei blaid, sy’n dra chwerw am rym mewnol Llafur Cymru’n symud o’i ASau i’r Bae. Ond dydi hynny ddim yn gwneud Chris Bryant yn anghywir yn yr achos hwn. Mae’n wleidydd medrus all ddweud dau beth ar unwaith.

Achos, fe fydd Prif Weinidog Cymru yng Nghwpan y Byd yn cynrychioli ein gwlad yn swyddogol, ynghyd â Vaughan Gething. Rŵan, mae ‘na ambell beth i’w ddweud yma. Mae yna wahaniaeth rhwng mynd fel cefnogwr ac yna mynd i gynrychioli Cymru ar lefel wleidyddol. Ac mae yna resymau dilys i’n gwleidyddion ein cynrychioli yno. Mae’n gyfle prin, ac enfawr, i Gymru hyrwyddo’i hun ar lwyfan y byd.

Sut yn union mae eu presenoldeb yno’n gwneud hynny, dwi ddim yn rhy siŵr, rhaid imi gyfaddef. Ond dwi’n siŵr fod yna ddigon o gyfarfodydd a chreu cysylltiadau defnyddiol mewn digwyddiadau o’r fath. Gallai fod yn llesol, am wn i.

Ond dim ond gemau Lloegr ac UDA y byddan nhw’n mynd iddyn nhw, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r wythnos diwethaf na fydd y trydydd cynrychiolydd, Dawn Bowden, yn mynychu gêm Iran mwyach. Y rheswm? Oherwydd digwyddiadau diweddar yn y wlad honno, sy’n cynnwys protestiadau gan ferched yn bennaf am eu hawliau fel merched, sydd hefyd wedi datblygu’n ymgyrch dros ddemocratiaeth, hawliau dynol a diwedd y gyfundrefn Islamaidd. Hwyrach fod cefnogaeth Iran i ryfel Rwsia hefyd yn ffactor dros beidio mynd.

Nefoedd, am ragrith cyfoglyd! Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon boicotio gêm Iran oherwydd y sefyllfa yno, ond yn anfodlon boicotio Qatar – gwlad sydd â sefyllfa debyg iawn i Iran yn y bôn. Dyma wlad sy’n erlid pobl hoyw, yn trin gweithwyr mudol fel baw, yn fflangellu troseddwyr ac yn gweinyddu’r gosb eithaf i gyn-Fwslimiaid sy’n troi at grefydd arall.

Mae p’un a ddylai Llywodraeth Cymru ddanfon cynrychiolwyr i Qatar yn fater i eraill, dwi ddim yn gadarn fy marn y tu hwnt i fy mod i’n anghyfforddus iawn â’r peth. Byddai’n braf, er hynny, gweld cysondeb yn ei hagwedd. Hawliau dynol ydi hawliau dynol, boed yn Qatar, Iran, neu unrhyw le arall.