Mi fedrwn i weld yr ymateb i araith Boris Johnson wrth iddo’i thraethu’r wythnos diwethaf. Di-sylwedd, di-urddas, dim syniadau a llawn honiadau ac addewidion ffals. Os nad oeddech chi’n ei licio hi, roedd y rheswm yn syml: doedd hi heb ei hanelu atoch. Araith warthus, yn ôl rhai. Ond na, roedd araith Johnson gerbron cynhadledd ei blaid yn un ragorol.