Dw i erioed yn fy myw wedi bod mor falch o gael mynd i rali iaith, ag yr oeddwn i b’nawn Sadwrn diwethaf.

Ar ôl wythnos a hanner o geisio osgoi galaru ymadawiad y biliwnydd brenhinol, roeddwn i angen yr hyn mae ein cyfeillion dros Glawdd Offa yn ei alw yn palate cleanser.

Cyn troi am y Fam Ynys, roeddwn i yn teimlo fel dyn a fu’n byw am flwyddyn gron ar gebabs seimllyd i frecwast, cinio a swpar. Yn teimlo fel slyg yn llusgo yn llafurus i lawr pan Prydeindod.