Ers y cyhoeddiad gan Charles Frenin bod ei fab William yn Dywysog Cymru, bu lot o ryw hen gwyno a grwgnach aflednais ac amharchus.

Bobol sy’ fyw, beth am i ni goleddu’r Tywysog Talsyth (aelod tala’r Teulu Brenhinol, 6’3’’) a’i dderbyn i’n plith gyda’r croeso cynnes Cymreig enwog hwnnw?

Wedi’r cyfan, mae Wil wedi addo “dod i adnabod yn well y Gymru fodern”, yn ôl ein Prif Weinidog, Mark Drakeford.