Dw i wedi sôn o’r bla’n bo’ fi ddim wir yn foi am hobis. Sai’n pysgota (mynedd), sai’n gwau, sai’n cerdded na rhedeg, licen i ddarllen mwy – ond chwrae teg i fi, dw i’n darllen trw dydd yn ’y ngwaith yndydw? Sai wir yn whare computer games (ac ydi, ma hynna’n hobi clodwiw nawr – ddim jyst yn beth ma’ rhieni’n rhoi row i’w plant am ’neud), a dw i’n sicir ddim yn whare golff.