Oes unrhyw beth ym myd gwleidyddiaeth yn fwy o sbort na u-turn, gwedwch?

Pan ei bod hi’n amlwg i bawb, bron – wel, pawb heblaw’r llywodraeth – bod y llywodraeth yn ’neud rhwbeth hollol hollol hurt.

Pan eich bod chi’n gwylio nhw’n cyfiawnhau a chefnogi penderfyniad ar y cyfryngau gan wybod bod gwd chance y byddan nhw nôl wap yn gorfod gweud y gwrthwyneb.

Ag eithrio etholiad, dyma’r peth agosa’ s’da gwleidyddiaeth i ‘slepjan’ Syr Wynff a Plwmsan.