Ry’ch chi’n ymuno â mi’r wythnos hon ar ganol angladd Brenhines Lloegr. Odi, ma fe mlân ’da fi – dw i’n un o’r bobol wirion ’na sydd â’r teledu neu’r radio mlân o hyd.

Mae hynny, wrth gwrs, wedi gwneud y 10 diwrnod diwethaf yn heriol iawn. Dw i ’di bod yn anghofio am y shebang, yn rhoi’r radio mlân, yn cael fy atgoffa, yn sgrechen, ac yn rhedeg i droi e bant ryw ddeg gwaith bob dydd.