Gan fod y golofn hon i bob pwrpas bellach yn golofn deithio wrth i chi ymuno â mi ar wahanol sirwneiau llafurus o amgylch Cymru a thu hwnt, waeth inni barhau â’r thema: dw i ar fferi. Yn wir, dw i siwr o fod newydd fwynhau fy hoff hobi – sef bwyta pryd o fwyd ar fferi. (Ac i’r sawl sydd am ddadlau nad yw hynny’n hobi dilys, wfft i chi; dw i byth yn hapusach na’n b’yta boeuf bourgignion a frites o ffreutur fferi gyda’r cawsys bach ’na mewn pacets bach wedyn.)