Mae bragdy yn y gogledd wedi creu cwrw o’r enw ‘Wyth’ i ddathlu ei ben-blwydd…

Blas o America sydd ar ddiodydd bragdy bach sy’n cael ei redeg gan gwpwl priod o gyffiniau Llandudno.

Yn ystod cyfnod yn byw yn Calgary yng Nghanada, treuliodd Dave ac Emma Faragher amser yn ymweld â dwsinau o fragdai ledled y wlad honno, a rhai yn Unol Daleithiau America hefyd.