Mae gwaith ugain o artistiaid a beirdd blaenllaw wedi dod ynghyd dan un to mewn arddangosfa newydd i ddathlu Llwybr Arfordir Cymru.

Bydd yr arddangosfa, sydd ar agor drwy fis Mawrth yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, yn nodi diwedd dathliadau i nod deng mlynedd ers creu’r llwybr sy’n ymestyn am 870 milltir ac yn nadreddu ei ffordd lawr yr arfordir o’r gogledd i’r de.