Mae ffermwraig wedi bod i Zambia, Bolivia, Brazil, America a Honduras, cyn dychwelyd i Gymru a sefydlu’r bwyty cyntaf ym Mhrydain sy’n gweini bwyd wedi ei greu o bryfaid…

Byrgyrs pryfaid, bisgedi criciaid a hwmws wedi’i greu â chynrhon… dyna rai o’r bwydydd sy’n cael eu gweini ym mwyty pryfaid cyntaf gwledydd Prydain yn Sir Benfro.