Mae Syr Ifan ab Owen Edwards yn un o dri pherson wnaeth gymaint, os nad mwy na neb, i achub y Gymraeg… dyna farn awdur cyfrol newydd sy’n olrhain hanes gwersylloedd cynnar yr Urdd.

Yr Esgob William Morgan ac O M Edwards yw’r ddau arall ar restr Penri Jones, awdur Breuddwyd Syr Ifan.

Mawredd Syr Ifan, sefydlydd Urdd Gobaith Cymru, oedd ei fod wedi mynd ati’n ymarferol i uno ieuenctid Cymru, meddai Penri. Un o’r ffyrdd y gwnaed hynny oedd drwy sefydlu gwersylloedd.