Mae’r pwyslais ar ysgafnu baich bywyd a gwneud i gleientiaid deimlo yn dda yn Salon Wendigedig…

Lle i gwsmeriaid gael clust i wrando a mymryn o dawelwch meddwl yw salon trin gwallt Wendie Williams, sy’n sefyll yng ngwaelod ei gardd.

Mae’r pwyslais yn salon trin gwallt Wendigedig ym mhentref Llangynnwr ger Caerfyrddin ar iechyd meddwl, a chreu hafan ymysg y llwyni a sŵn yr adar i bobol gael bwrw eu boliau neu werthfawrogi’r llonyddwch.