Mae dwy o Geredigion yn gwneud dillad nos ecogyfeillgar o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy…

“Mae Bella a fi wedi adnabod ein gilydd erioed,” meddai Ffion Boyesen, a gafodd ei magu yn Llangrannog yng Ngheredigion, ac sydd wedi bod yn ffrindiau gyda Bella Mossman ers cyn eu dyddiau yn Ysgol Gynradd Pontgarreg.