Mae pedwar o gyn-chwaraewyr rygbi mwya’ disglair Cymru wedi dod at ei gilydd i sefydlu cwmni coffi yn ystod y cyfnod clo, gyda chanran o’r elw yn mynd i goffrau canolfan ganser.

Shane Williams sy’n dweud mwy am y fenter…

Y cae rygbi ydy cynefin naturiol Shane Williams, y cyn-asgellwr 44 oed a sgoriodd 58 o geisiadau i Gymru mewn 87 o gemau ac wyth cais arall mewn 11 gêm i dîm Llewod Gwledydd Prydain ac Iwerddon.