Mae Clare Mackintosh – awdur sy’n gwerthu miliynau o lyfrau dros y byd – wedi mynnu rhoi’r Gymraeg yn ei nofelau diweddaraf…

Am y tro cyntaf erioed fe fydd yr ŵyl ‘Crime Cymru’ yn digwydd yn Aberystwyth ar ôl cael ei chynnal am ddwy flynedd ar-lein yn 2021 a 2022. Ymhlith y mawrion sydd wedi bod yn rhan o’r gwyliau rhithiol mae’r nofelydd Lee Child, a’i frawd Andrew Grant.