Mae cyfrol newydd i gyw-haneswyr yn eu cymell i ddarllen pob math o destunau – nid dim ond y rhai swyddogol…

Wrth weithio ar y llyfr Llunio Hanes, mae criw o haneswyr wedi bathu’r term ‘darostyngol’ i ddisgrifio Cymru – gwlad neu ddiwylliant nad yw mewn grym, ond sydd wedi bod yn rhan o’r grym sydd wedi coloneiddio rhan helaeth o’r byd.