Ar ôl dysgu “lot fawr am longau, am wyntoedd, am gapteiniaid” wrth redeg Amgueddfa Forwrol Llŷn – roedd yn rhaid i Meinir Pierce Jones sgrifennu nofel… 

Mae ennill Gwobr Goffa Daniel Owen “yn freuddwyd” i’r llenor buddugol eleni.

Ar frig y don yr oedd Meinir Pierce Jones gyda’r nofel hanesyddol Capten.

Mae hi’n byw ar dyddyn ar gyrion Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn, yr un pentref ag enillydd y Goron eleni, Esyllt Maelor.