Mae hyfforddwr llais enwog yn dod â phobol theatrig o bedwar ban byd i Geredigion…

Ar ôl byw bant a gweithio gyda chwmnïau theatr mawr yn Llundain a Stratford fel cyfarwyddwr a hyfforddwr llais, mae Nia Lynn wedi dychwelyd i fyw i Geredigion.

Ond mae hi’n awchu am ddenu’r byd ati hi. Yn ddiweddar, fe ddaeth dwsin o actorion o bedwar ban byd i dreulio cyfnod gyda hi yn Nyffryn Aeron, yn cael eu hyfforddi ganddi ar eu cynhyrchiad newydd o waith Shakespeare.