O Badarn Sant i David R Edwards – mae llond sir o arwyr ac arloeswyr rhwng cloriau llyfr newydd...

Fe fydd Eisteddfodwyr yn siŵr o ddod yn fwy cyfarwydd gyda Henry Richard, y pregethwr a’r heddychwr, yr wythnos nesaf. Fe fyddan nhw’n debygol o gerdded yn llythrennol yn ei gysgod, gan fod ei gerflun tal yn sefyll ar bwys y maes parcio ar sgwâr Tregaron, y tu fas i dafarn enwog y Talbot.