Caneuon pop blaengar, deallus a chyffrous oedd gan Eirin Peryglus. O’r diwedd fe allwch chi wrando ar eu holl recordiau ar y We…

‘Y Llosg’. ‘Epilog yn A Fwyaf’. ‘Merthyr’. ‘Anial Dir’. Dyma enwau sy’n llonni calon edmygwyr synth-pop tanddaearol Cymraeg. Enwau ydyn nhw ar rai o ganeuon mwyaf adnabyddus y grŵp pop arloesol Eirin Peryglus, oedd wrthi yn y 1980au hwyr a’r 1990au cynnar.