Ennill Her y Ffilm Fer

Criw ifanc o Ddyffryn Nantlle oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ‘Her Ffilm Fer’ eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan Hansh ac S4C, ble buodd rhaid i’r criw greu ffilm sydd yn para llai na phum munud, gan gwblhau’r holl waith o fewn 48 awr.

Ffilmiwyd Eto gan griw Trac 42 o Benygroes. Ewch draw i DyffrynNantlle360 i ddarganfod sut mae gwylio’r ffilm ddu a gwyn.

Aber yn croesawu Osian ar ei daith drwy Gymru

Er mwyn cyrraedd Rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf,  teithiodd Osian Jones ar ei feic o Gaernarfon. Mae’r ymgyrchydd iaith o Wynedd yn galw ar yr awdurdodau i weithredu ar yr angen am fwy o gartrefi.

Stopiodd Osian mewn sawl ardal ar ei ffordd er mwyn lledaenu’r neges. Ei fwriad oedd cyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd erbyn 1:30pm dydd Sadwrn er mwyn rhoi llythyr i Mark Drakeford sydd yn ei annog i weithredu ar unwaith.

Darllenwch mwy am daith Osian ar BroAber360.

Aber yn croesawu Osian ar ei daith drwy Gymru

Mererid

Maer Aberystwyth Alun Williams a chriw yn dod i gwrdd Osian ar ei daith

Hen festri yn troi’n ganolfan gymunedol

Mae’r Festri yn elusen sy’n hyrwyddo a datblygu mentrau a phrosiectau cymunedol ym mhentref Llanberis. Mae’r fenter gelfyddydol wedi’i lleoli yn hen adeilad festri Capel Gorffwysfa, wedi’i leoli ar Stryd Fawr Llanberis.

Yn ôl Merlin Tomkins, Cadeirydd yr elusen, gweledigaeth y Festri yw “hyrwyddo celf weledol, ddigidol a pherfformio cymunedol mewn ffordd sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru”.Roedd adeilad y Festri yn perthyn i Gapel Gorffwysfa, capel Methodistaidd a adeiladwyd ar waelod Goodman Street ym 1867, ac mae ganddo hanes cyfoethog fel cartref i’r Ysgol Sul, Band of Hope, ac ymarferion Band Pres Llanberis. Ewch draw i BroWyddfa360 i ddysgu mwy am hanes yr adeilad, ac am elusen Y Festri.

 

Straeon Bro poblogaidd yr wythnos!

  1. Hanes Doreen Evans, faciwî o Lerpwl gan Carys Wilson ar Clonc360
  2. Buddugol yn y Her Ffilm Fer gan Yr Orsaf ar DyffrynNantlle360
  3. Goronwy Evans yn procio’r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu’r gymuned  gan Gwenllian Jones ar Clonc360