Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith Bro360 yn yr wythnos ddiwethaf…

Godro organig

Er amrywiaeth y cyfleoedd sydd ar gael gan fudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI), y cyfle i ddysgu am ddulliau amaethu ac arloesi ar y fferm sy’n apelio fwyaf i rai aelodau. Ddydd Sadwrn, daeth aelodau Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru ynghyd yn Aberystwyth i gynnal eu taith undydd cyntaf ers deunaw mis.

Godro organig a rhedeg busnes gwerthu llaeth oedd dan sylw ar fferm Cerrigcaranau Uchaf ger Tal-y-bont, ac ymchwilio ym maes biowyddoniaeth sy’n mynd â bryd ArloesiAber ar gampws Gogerddan.

Darllenwch ragor am hanes y dydd gan Dewi Davies ar BroAber360.

Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru nôl ar daith!

Dewi Davies

Aelodau’r CFfI yn ymweld â rhai o sefydliadau gwledig ardal Aberystwyth

Adolygu Anfamol

“Mae’r ddrama yma yn mynd â chi i fyd Ani, ac am awr a chwater anghofiais am y byd tu hwnt i furiau’r theatr.”

Dyna farn Meleri Morgan, fu’n gwylio cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar. Os nad ydych wedi mynd i weld y ddrama fonolog Anfamol eto, beth am ddarllen adolygiad Meleri ar Caron360?

Anfamol

Meleri Morgan

Barn un person a aeth i weld Drama newydd Rhiannon Boyle.

Dim prinder goliau yn yr hoci

Er i dîm hoci dynion Bangor fod ar y blaen o dair gôl i ddim yn erbyn Clwb Hoci Northern o Lannau Merswy ddydd Sadwrn, fe orffennodd y gêm yn gyfartal 4-4.

Bu’n gêm gyffrous, gyda’r Gleision ar dân wrth fynd ar y blaen o dair gôl wedi chwarter awr o chwarae. Tomos Hughes sy’n disgrifio’r cyfan ar BangorFelin360.

Blas o’r Bröydd

Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith Bro360

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Chwaer a brawd yn bencampwyr o Barc-y-rhos, gan Dylan Lewis ar Clonc360
  2. Athletwyr o Fro Pedr yn serennu ar lwyfan cenedlaethol, gan Ifan Meredith ar Clonc360
  3. Pont Sarnau ar gau dros dro, gan Carwyn Meredydd ar Ogwen360