Sefydlu Encôr mewn Pandemig

Pwy sydd wedi colli cyd-ganu ers dyfodiad y pandemig? Wel, mae criw o Fangor wedi gwneud rhywbeth am hynny, trwy sefydlu côr newydd o’r enw Encôr!

Sut maen nhw’n llwyddo i ganu a chadw at y cyfyngiadau? Trwy ymarfer yn yr awyr agored a dan do – yn stadiwm pêl-droed Nantporth, Bangor.

Yn ôl un o’r trefnwyr, “mae’n brofiad sy’n uno, ysgogi’r meddwl, yn hwyl ac yn heriol os ydych yn cesio dysgu cân fel Bohemian Rhapsody!”

Mae croeso i aelodau newydd ymuno – does dim angen profiad o gyd-ganu, dim ond yr awydd i fwynhau. Mwy ar BangorFelin360.

Blas o’r Bröydd

Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi ar rwydwaith Bro360 yn yr wythnos ddiwethaf

Murlun yn dod â lliw a blas o hanes i stryd fawr Bethesda

Ydych chi wedi bod i Fethesda yn ddiweddar? Mae’n debyg fod unrhyw un ohonoch sydd wedi bod draw i’r stryd fawr wedi gweld y murlun sy’n ymgorffori rhannau pwysig o orffennol lliwgar Bethesda. Daw yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gôr meibion a chôr merched Chwarel y Penrhyn, yn ogystal â chyfraniad llenyddol trigolion yr ardal.

Ewch i Ogwen360 i ddarllen mwy o hanes y murlun, a gallwch weld llun ohono yn Llun yr Wythnos.

Murlun yn dod a lliw a blas o hanes i stryd fawr Bethesda 

Mae’r murlun newydd yn dathlu ein gorffennol diwylliannol a diwydiannol 

Tref hardd yw #Llanbedyneiblodau

Mae trigolion Llanbed, ar y cyd â Chyngor y Dref, siopau’r dref a Chanolfan Arddio Roberts Llanbed, wedi bod yn brysur yn yr wythnos ddiwethaf yn arddurno’r strydoedd a’r siopau gyda blodau o bob lliw a llun.

Mae lluniau o’r siopau wedi’u cyhoeddi ar Clonc360, a bydd mwy yn cael eu rhyddhau yn yr wythnosau nesaf ac ar y cyfryngau cymdeithasol – maen nhw’n werth eu gweld!

Tref hardd yw #Llanbedyneiblodau

Dylan Lewis

Mae’n werth gweld y blodau ar strydoedd a siopau’r dref eleni.

Ymdrechion y siopau gyda #Llanbedyneiblodau

Dylan Lewis

Dyma luniau siopau’r dref wedi eu haddurno â blodau