Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan sy’n cnoi cil ar yr hyn all y ffyddloniaid ei ddisgwyl yn Llanelli’r penwythnos hwn…

Ar drothwy ei Chynhadledd Wanwyn yn Theatr Y Ffwrnes yn Llanelli’r penwythnos hwn, mae Liz Saville Roberts yn credu ei bod hi’n bwysig i’r Blaid fod yn “obeithiol” ac yn “felin syniadau”.

Ddydd Gwener bydd Dirprwy Arweinydd yr SNP yn San Steffan, Mhairi Black, yn annerch y gynhadledd.

Yn fuan wedi hynny, bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn annerch y gynhadledd gan amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y Blaid.

Ddydd Sadwrn bydd Rhun ap Iorwerth, AoS ac ymgeisydd Ynys Môn yn etholiad cyffredinol San Steffan, yn annerch y gynhadledd – ynghyd â Sioned Williams, AoS De Orllewin Cymru, Heledd Fychan, AoS dros Canol De Cymru, ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.

Bydd y gynhadledd yn dod i ben gyda Chynhadledd Arbennig i aelodau yn unig ar strategaeth wleidyddol y blaid.

“Ansicrwydd economaidd”

A hithau’r disgrifio’r tirwedd gwleidyddol presennol fel un “digalon”, mae Liz Saville Roberts o’r farn bod rôl Plaid Cymru fel “melin syniadau” yr un mor bwysig ag erioed.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n andros o bwysig i ni fod yn obeithiol yn yr ystyr ein bod ni’n cynllunio ymlaen,” meddai wrth Golwg.

“Os yw rhywun yn edrych ar y tirwedd gwleidyddol ar hyn o bryd, mae o’n eithaf digalon.

“Mae o’n gyfnod o ansicrwydd yn economaidd ac yn amlwg rydan ni wedi cael cyfres o newyddion drwg, un peth ar ôl y llall.

“Yr wythnos hon fe gawson ni’r newyddion yn torri fod Bwrdd Iechyd y Gogledd, Betsi Cadwaladr, wedi cael ei osod mewn mesurau arbennig drachefn.

“Ond un o’r pethau sy’n andros o bwysig i ni ym Mhlaid Cymru ydi peidio dim ond disgrifio tristwch y sefyllfa bresennol, ond medru cynnig ffordd allan.

“Un o’r pethau mae Plaid Cymru yn ei wneud ydi bod yn felin syniadau ar gyfer y dyfodol.

“A beth welwch chi’n aml iawn ydi fod y ddwy brif blaid arall yn tueddu i wawdio’r syniadau, ond yna, ychydig bach o amser i lawr y lôn, maen nhw’n mabwysiadu’r un syniadau.

“Felly mae’r rôl yna yn un bwysig o hyd.”

Edrych ymlaen at glywed Mhairi Black

Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd, yn ôl Liz Saville Roberts, fydd araith Mhairi Black.

Cafodd Aelod Seneddol Paisley a Renfrewshire South ei hethol i Dy’r Cyffredin yn 2015 tra’r oedd hi dal yn fyfyrwraig, ac mae hi bellach yn Ddirprwy Arweinydd ar ei phlaid yn San Steffan.

“Mae Plaid Cymru a’r SNP yn chwaer bleidiau felly mae’r cysylltiad yna yn un hanesyddol,” eglura Liz Saville Roberts.

“Rydan ni’n mynd i siarad yn eu cynadleddau nhw ac mae rhywun o’r SNP yn dod i’n rhai ni.

“Mhairi Black sy’n dod eleni ac mae hi’n siaradwr cyffrous ofnadwy.

“Wrth gwrs, mae’r cwestiynau sylfaenol cyfansoddiadol i’r Alban yr un mor fyw er gwaethaf y ffaith bod un arweinydd hynod rymus a hynod ddylanwadol, yn Nicola Sturgeon, yn sefyll i lawr.

“Dw i’n meddwl – yr un fath ag yng Nghymru – fod yr ymgyrch annibyniaeth yn fwy nag unrhyw unigolion, mae o’n fwy nag unrhyw blaid.

“Ond yn amlwg mae’r SNP yn rhan annatod o’r ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban ac mae’r un peth yn wir am Blaid Cymru.

“Yr un peth sy’n amlwg i unrhyw un sy’n edrych yn wrthrychol ydi bod y drefn wleidyddol a’r drefn lywodraethu bresennol yn tan-wasanaethu Cymru. Felly mae yna newid ar y gorwel, a ‘beth fydd y newid?’ ydi’r cwestiwn.”

“Gwrthblaid barhaus”

Y sialens fawr sy’n wynebu Plaid Cymru yn y blynyddoedd i ddod yw “herio Llafur” a dod i sefyllfa lle mae modd iddi “gyflawni syniadau”, yn ôl Liz Saville Roberts.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n andros o bwysig ein bod ni ddim yn bodloni ar fod yn wrthblaid barhaus.

“Achos mae hynny yn golygu ein bod ni o hyd yn beirniadu a ddim yn cael y cyfle nid yn unig i gynnig syniadau gwahanol a gwell – yn hytrach, rydyn eisiau bod mewn sefyllfa i allu rhoi’r rheini ar waith.

“Ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni allu herio Llafur achos mae o’n gywilyddus bod y Blaid Lafur yn gallu gwneud cymaint i osgoi craffu.

“Dw i’n dod yn ôl at y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr achos mae o’n agos i fy nghalon i.

“Mae o’n gywilyddus y ffordd maen nhw’n osgoi cyfrifoldeb am yr hyn maen nhw’n gyfrifol amdano.

“Ac i ni fel plaid, mae o’n andros o bwysig ein bod ni’n ffeindio ffordd o gyflawni syniadau a gweithgareddau sy’n gwella bywydau pobol yng Nghymru.

“Mae’r cinio am ddim [i blant ysgol] gafodd ei gyflawni drwy’r cytundeb cydweithio yn enghraifft dda o hynny.

“Dw i’n fwy na hapus i ddweud mod i’n hynod o falch y gynrychioli etholaeth mewn gwlad sy’n uchafu gwerthoedd cinio am ddim i bob plentyn ysgol.

“Mae’r un peth yn wir efo darparu mwy o gyfleoedd i gael gofal plant am ddim hefyd.

“Ond ar yr un pryd mae’n rhaid ein bod ni’n medru craffu yn galed ar Lafur lle maen nhw’n methu.”