Wedi blwyddyn heb Gomisiynydd y Gymraeg, mae Efa Gruffudd Jones wedi camu i’r swydd ers dechrau’r flwyddyn…

A hithau wedi treulio cyfnodau yn Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, yn Gadeirydd y Theatr Genedlaethol, yn ogystal â bod yn Brif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones bellach yw Comisiynydd y Gymraeg.

Dechreuodd ar y swydd ddechrau’r mis yma, gan olynu’r diweddar Aled Roberts a fu farw ym mis Chwefror y llynedd.