Mae artist adnabyddus sydd wedi bod yn creu gwaith celf ar dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi dweud ei fod yn “gandryll” o weld capeli yn cael eu rhoi ar y farchnad agored.

Buodd Bedwyr Williams, artist sy’n byw ger Llanberis ond sydd ag enw rhyngwladol o bwys, yn sgwrsio gyda Golwg am ei gerfluniau cychod gwenyn newydd, yn rhan o gynllun sy’n adfer cyswllt hynafol rhwng Sir Benfro a Swydd Wexford, Iwerddon.