Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer yr erthygl hon o’r cylchgrawn cyfredol, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Nos Lun fe fydd Cymru wedi chwarae ei gêm gyntaf yn ffeinals Cwpan y Byd ers 64 mlynedd, a gobeithio y bydd ganddyn nhw driphwynt yn y bag!

Mae’n anodd coelio fod gwlad sydd wedi cynhyrchu pêl-droedwyr o safon Ian Rush, John Toshack, Mark Hughes, Neville Southall, Ryan Giggs, ac wrth gwrs, Gary Speed, dros y cyfnod hwnnw wedi gorfod aros cyhyd.

Boddi wrth ymyl y lan fu hanes Cymru ar sawl achlysur, ond doedd Gareth Bale a’i griw ddim am gael eu gwadu y tro hwn.

Fodd bynnag, nid Cwpan y Byd cyffredin mo’ honni eleni… mae yna staen gweledol ar y twrnament sy’n cael ei gynnal yn Qatar.

Yn gyntaf oll, mae’r twrnament yn cael ei chwarae yn y Gaeaf, oherwydd ei bod hi’n rhy boeth i chwarae pêl-droed yn Qatar yn ystod yr haf.

Mae hyn wedi golygu fod chwaraewyr wedi cael eu gwthio i’r eithaf y tymor hwn, gan chwarae gemau di-ri yn eu cynghreiriau a chystadlaethau eraill er mwyn bodloni’r amserlen – synnwn i ddim pe bai yna nifer fawr ohonynt yn dioddef anafiadau allan yn Qatar.

Ond nid dyna’r pwnc llosg amlycaf.

Byth ers i FIFA gyhoeddi mai yn Qatar fyddai Cwpan y Byd 2022 yn cael ei gynnal, nôl yn 2010, mae yna ofidion mawr wedi bod am safonau hawliau dynol y wlad.

Mae llywodraethau, elusennau, ymgyrchwyr a chymdeithasau pêl-droed wedi lleisio pryderon am y nifer o weithwyr – nifer ohonynt yn dod o dramor – sydd wedi marw wrth i Qatar wario biliynau o ddoleri ar adeiladu stadia newydd sbon i gynnal gemau, tra bod yna hefyd ofidion am y ffordd mae’r wlad y trin aelodau o’r gymuned LGBTQ+

Mae’r awdurdodau yn Qatar yn mynnu mai ond tair marwolaeth “sy’n gysylltiedig â gwaith” sydd wedi bod ar safleoedd adeiladu stadia ers i’r gwaith ddechrau yn 2014 – a 37 yn rhagor o farwolaethau oddi ar y safleoedd nad ydynt yn “gysylltiedig â gwaith”, tra bod y Goruchaf Bwyllgor sy’n rhedeg y wlad yn mynnu fod lles gweithwyr yn flaenoriaeth.

Fodd bynnag, mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 15,000 o bobol oedd ddim yn ddinasyddion Qatari wedi marw yn y wlad rhwng 2010 a 2019.

Ond mae faint o’r marwolaethau hynny oedd yn gysylltiedig â gwaith – ac a oedd y gwaith hwnnw’n gysylltiedig â Chwpan y Byd – yn destun anghydfod, ac yn aneglur.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn dweud bod miloedd o farwolaethau wedi’u cofnodi, i bob pwrpas heb esboniad, oherwydd diffyg ymchwiliad.

Y llynedd, wnaeth y Guardian gyhoeddi bod 6,500 o weithwyr mudol o bum gwlad – India, Bangladesh, Pacistan, Sri Lanca a Nepal – wedi marw rhwng 2010 a 2020, gyda 69% o’r marwolaethau ymhlith gweithwyr Indiaidd, Nepali a Bangladeshi.

Yn y cyfamser, mae’r trefnwyr wedi dweud y bydd croeso i bob ymwelydd beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw neu rywioldeb. Ond maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn disgwyl i’w cyfreithiau a’u diwylliant gael eu parchu.

Mae llawer o gefnogwyr LGBTQ+ yn dweud nad ydyn nhw wedi cael y sicrwydd dros ddiogelwch oedd ei angen arnyn nhw.

Ac mae adroddiad diweddar gan y corff Human Rights Watch yn dweud bod aelodau o gymuned LGBTQ+ Qatar wedi eu caethiwo a’u cam-drin yn gorfforol gan wasanaethau diogelwch Qatar.

“Meddwl am y pêl-droed”

Nid yw pryderon am hawliau dynol ar flaen meddwl pawb ar drothwy’r gystadleuaeth.

Fe fydd Owain Elgan, 24, o Gaernarfon, yn teithio i Dubai gyda thri o’i ffrindiau ac yna’n dal awyren i Qatar er mwyn gwylio gemau Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Iran, cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer yr ornest fawr yn erbyn Lloegr.

“Jyst meddwl am y pêl-droed ro’n i, a’r cyfle i weld Cymru mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd,” meddai Owain wrth Golwg.

“Maen nhw (FIFA) yn gwybod am y materion hawliau dynol yma ers iddyn nhw roi Cwpan y Byd i Qatar, roedden nhw’n gwybod bod y pethau yma yn mynd ymlaen.

“A dw i ddim yn meddwl y bydda i’n mynd i ochr yna’r byd eto.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n brofiad da.

“Cael ticed [i’r gêm] oedd yr unig beth oedd yn fy nal i’n ôl.

“Roedd o reit anodd cael ticed, ro’n i yn y portal prynu ticedi am wyth awr ac ar adegau do’n i ddim yn meddwl y baswn i’n cael dim byd.

“Ond unwaith ges i hwnna ro’n i awê, wnes i fwcio bob dim yn syth.”

Mae yna her ynghlwm â chyrraedd Qatar, eglura Owain.

“Mae o’n mynd i fod yn anodd i gefnogwyr. Dw i’n gwario £250 ar flight jyst i fynd mewn i Qatar o Dubai.

“Oce, awr o flight ydi o, ond dydi o dal ddim yn hawdd, mae’n bosib y byddan ni’n gorfod aros i fyny drwy’r nos er mwyn dal flights.

“Dw i’n adnabod rhai sy’n aros yn Qatar sy’n cysgu ar lawr mewn gwestai, yn aros ar cruise ships aballu, felly dydi o ddim yn hawdd iawn pan ti yn Qatar ei hun chwaith.”

“Cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan Qatar”

Mae yna rai sydd o’r farn bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan Qatar ar faterion megis hawliau gweithwyr ag LGBTQ+.

Mewn datganiad ar y cyd fe ddywedodd Cymdeithasau Pêl-droed Gwlad Belg, Denmarc, Lloegr, yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sweden a’r Swistir:

“Rydym yn cydnabod, ac yn croesawu, fel yr ydym wedi’i wneud yn y gorffennol, bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan Qatar, yn enwedig o ran hawliau gweithwyr mudol, gydag effaith newidiadau deddfwriaethol a ddangoswyd yn adroddiadau diweddar y Sefydliad Llafur Rhyngwladol.

“Rydym yn croesawu’r sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Qatar a gan FIFA ynglŷn â diogelwch a chynnwys yr holl gefnogwyr sy’n teithio i Gwpan y Byd, gan gynnwys cefnogwyr LGBTQ+.”

Llafur: Plaid y gweithwyr?

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i anfon dirprwyaeth i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd wedi cael ei feirniadu.

Fe ddaeth y newyddion y byddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford, y Gweinidog Economi Vaughan Gething yn ymweld â’r wlad mewn capasiti swyddogol fel sioc i sawl un.

Ymhlith beirniaid mwyaf ffyrnig trip Drakeford a Gething i Qatar mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, sy’n dweud na all y Blaid Lafur gyfeirio at ei hun fel plaid y gweithwyr, tra’n ymweld â Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

“Sefydlwyd y Blaid Lafur i warchod hawliau gweithwyr ac mae’r blaid yn dal i steilio ei hun fel plaid y gweithwyr,” meddai Jane Dodds mewn erthygl y gwnaeth hi ysgrifennu i Nation.Cymru.

“Er hynny, mae tri o’i gweinidogion yn teimlo ei bod yn briodol gwneud ymweliad swyddogol â Qatar, lle nad yw hawliau gweithwyr yn bodoli i bob pwrpas.

“Datgelodd ymchwiliad gan y Guardian y llynedd fod 6,500 o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar, ac mae lle i gredu bod y ffigyrau hynny wedi cael eu tanamcangyfrif yn sylweddol.

“Bu farw llawer o’r gweithwyr mudol hyn wrth adeiladu’r union leoliadau bydd Gweinidogion Cymru yn ymweld â nhw cyn hir.

“Felly pam fod Mark Drakeford yn mynd? Mae hyn yn rhywbeth sy’n parhau’n aneglur i mi a nifer o rai eraill.

“Gallwn ond tybio mai’r rheswm bod Llafur yn mynnu anfon cynrychiolwyr i’r wlad er gwaethaf yr holl bryderon ynghylch hawliau dynol yw ceisio buddsoddiad gan Qatar.

“Ydi’r Blaid Lafur wir wedi gostwng mor isel â hyn? Anwybyddu pryderon hawliau dynol yn y gobaith o ddenu buddsoddiad budr? Plaid sy’n fodlon anwybyddu’r gwirioneddau anghyfleus ynglŷn â hawliau a marwolaethau gweithwyr? Dyw hyn yn sicr ddim yn swnio fel plaid y gweithwyr i mi.”

Erbyn hyn mae Dawn Bowden wedi dweud na fydd hi yn mynd allan i Qatar i wylio gêm Cymru yn erbyn Iran ar fore Gwener, 25 Tachwedd.

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ragrith”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi bod yn celpio Llywodraeth Cymru ar drothwy’r gystadleuaeth.

Roedd disgwyl i Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Chwaraeon, i deithio i Qatar ar gyfer ail gêm Cymru yn y twrnament yn erbyn Iran ar fore Gwener, 25 Tachwedd.

Fodd bynnag, fe benderfynodd hi beidio mynychu’r gêm honno yn sgîl protestiadau hawliau dynol diweddar yn Iran ble mae miloedd o bobol wedi cael eu harestio a nifer wedi eu dedfrydu i farwolaeth.

Mae Golwg wedi cael ar ddeall ei bod hi’n bosibl y bydd Dawn Bowden yn teithio i Qatar i weld gêm, pe bai Cymru yn llwyddo i gymhwyso o’u grŵp.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi defnyddio ei thro pedol, a’r ffaith fod Arweinydd Llafur yn San Steffan wedi gwrthod mynd i Qatar, i chwipio Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae’r rhagrith yn glir i bawb ei weld, ” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Keir Starmer yn boicotio’r digwyddiad ac yn dweud mai dyna ‘safbwynt y blaid’, tra mewn gwirionedd mae eu gwleidydd etholedig mwyaf blaenllaw, Mark Drakeford, yn mynd.

“Nawr mae Dawn Bowden, oedd i fod i deithio i Qatar i fynd i gêm Cymru yn erbyn Iran fel rhan o’i hantur ddiweddaraf dramor, wedi penderfynu gwneud tro pedol ar y penderfyniad hwnnw.

Mark Drakeford mewn “cyfyng-gyngor”

Grŵp arall sydd wedi bod yn feirniaid llafar a chyson o record hawliau dynol Qatar yw Amnesty International.

Mae’r sefydliad hawliau dynol wedi cynnal ymchwiliadau i safonau byw’r bobol fu’n gweithio ar brosiectau isadeiledd Cwpan y Byd, a’r ffordd y cawson nhw eu trin gan awdurdodau Qatar.

Maen nhw hefyd yn ymgyrchu i sicrhau iawndal i deuluoedd y gweithwyr fu farw tra’n gweithio yn Qatar.

Hoffai Ewa Turczanska, sy’n aelod o grŵp Amnesty International ym Mae Colwyn, weld Mark Drakeford a’i ddirprwyaeth yn “datgan yn glir y gwerthoedd sydd gennym ni yma yng Nghymru” wrth ymweld â Qatar.

“Dw i’n cydnabod fod Mark Drakeford mewn cyfyng-gyngor enfawr gan ei fod o, fel ag yr ydw i, yn hynod falch fod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd,” meddai Ewa wrth Golwg.

“Rydyn ni’n wlad fechan ac mae o’n awyddus i roi Cymru ar y map.

“Dyw Amnesty ddim yn annog boicotio, ond fe hoffem weld pobol fel Mark Drakeford yn datgan yn glir y gwerthoedd sydd gennym ni yma yng Nghymru ynglŷn â chynwysoldeb.

“Nid yw’n ddigon teithio yno a gobeithio bod eich presenoldeb yn ddigon i newid pethau.

“Mae angen iddo ddatgan yn glir ei fod o blaid cynwysoldeb, ei fod o blaid hawliau gweithwyr, y byddai’n croesawu rhoi pwysau ar FIFA i greu cronfa er mwyn talu iawndal i’r gweithwyr a’u teuluoedd…

“Mae’r amodau y bu’r gweithwyr mudol wedi gorfod byw a gweithio ynddynt wedi bod yn warthus.

“Un pwynt rydyn ni wedi ei wneud droeon yw maen nhw yw gweithwyr allweddol y twrnament.

“Fe wnaethon ni gyd ddarganfod pwy oedd ein gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig, wel nhw yw’r gweithwyr allweddol yn yr achos hwn ac fe ddylai eu cyfraniad gael ei gydnabod.

“Fe ddylai teuluoedd y rhai wnaeth golli eu bywydau dderbyn iawndal.

“Beth am wneud safiad yma yng Nghymru a gadael etifeddiaeth barhaol ar ran y bobol hynny.”

“Angen i bobol gael teimlo’n saff”

Mae Amnesty hefyd wedi beirniadu cyfreithiau Qatar ar rywioldeb, gan ymgyrchu i sicrhau fod aelodau o’r gymuned LGBTQ+ sy’n teithio i Qatar yn gallu teimlo’n saff tra y maen nhw yno.

“Mae’r ffaith fod cyfun rywioldeb yn drosedd yn Qatar yn hollol annerbyniol,” meddai Ewa Turczanska.

“Mewn byd delfrydol, mewn byd perffaith, wrth gwrs fe ddylai pawb allu mynegi eu rhywioldeb yn rhydd.

“Dw i’n gwybod bod y gymuned LGBTQ+ yn cael eu cefnogi yn y parthau cefnogwyr ac yn y blaen ac mae hynny yn beth da.

“Fe ddylan nhw gael y rhyddid i fwynhau eu hunain, ond fe fydd yn rhaid i bawb fod yn ofalus ac edrych ar ôl ei gilydd gymaint ag y gallan nhw.

“Mae hwnnw yn fater arall y gallai Mark Drakeford a’r ddirprwyaeth sy’n teithio i Qatar fod yn ei ddweud yn ddiamwys, bod angen i bobol gael teimlo’n saff, bod angen i ferched gael teimlo’n saff, bod angen i bobol o’r gymuned LGBTQ+ gael teimlo’n saff, mae hynny yn hawl dynol.”

Mae Ewa yn brolio penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi iddynt gyhoeddi y bydd capten y tîm rhyngwladol, Gareth Bale, yn gwisgo band gyda lliwiau’r enfys – sy’n cael eu cysylltu gyda mudiadau LGBTQ+ – yn ystod y gemau yng Nghwpan y Byd.

“Mae gwisgo’r band braich yn ffordd weledol o ddangos eich cefnogaeth heb fod yn amharchus a heb fod yn rhy ymosodol.

“Oherwydd mae’n rhaid i ni fod yn sensitif tuag at ddiwylliannau gwledydd eraill.

“Felly dw i’n meddwl bod hynny yn ffordd bositif o ddangos mai dyna yw safiad tîm pêl-droed Cymru ar y mater.”

“Y Prif Weinidog wedi codi materion hawliau dynol”

 Yn ymateb i’r pryderon am Qatar, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg:

“Mae’r Prif Weinidog a’r Cabinet wedi codi materion hawliau dynol a gweithwyr yn uniongyrchol gyda Llysgennad Qatar yn y Deyrnas Unedig ac maen nhw’n ymgysylltu â chefnogwyr LHDTQ+ ac undebau llafur yng Nghymru a ledled y byd i helpu i sicrhau diogelwch cefnogwyr.

“Rydym yn sefyll gyda’r rhai sy’n ymdrechu dros gyfiawnder cymdeithasol ac rydym yn falch o safiad tîm Cymru o dan arweinyddiaeth Rob Page.

“Mae FAW, y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn edrych i Lywodraeth Cymru am gyngor, cefnogaeth ac arweinyddiaeth ar y materion hyn ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw er mwyn sicrhau presenoldeb Cymreig unigryw a blaengar yn y twrnamaint hwn.”