Diffyg adnoddau a chriwiau oherwydd Gemau’r Gymanwlad a Covid a oedd ar fai am y toiledau tila a oedd i’w cael ar y Maes eleni, yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Un o straeon mawr ddechrau’r wythnos oedd cyflwr y toiledau glas math ‘tardis’, gyda chwyno brwd am eu glendid a’u diffyg adnoddau golchi dwylo. Wedi nifer o gwynion yn y Wasg, mi wnaeth yr Eisteddfod sicrhau eu bod nhw’n cael eu glanhau yn ddyddiol.