Llŷr Gwyn Lewis, sy’n hanu o Gaernarfon ond yn byw yng Nghaerdydd, a gipiodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda chasgliad o gerddi ar y testun ‘Traeth’. Mae’r cerddi’n olrhain hanes tad, mam a bachgen dwyflwydd ar draeth Llangrannog dros Ŵyl y Banc ym mis Awst 2019.