Fe fydd sgwrs am y corff newydd Cyhoeddi Cymru yn digwydd yng ngŵyl lenyddol y Gelli’r wythnos nesaf.

Er i’r corff dwyieithog gael ei sefydlu yn 2021 fe fydd yn ffurfioli ei hun dros yr haf eleni – gyda’r nod o ddatblygu gwaith cyhoeddi o Gymru a’i hyrwyddo i’r byd, a chreu ‘hunaniaeth glir’ i’r sector.