Mae un o hoelion wyth y byd cystadlu yn edrych ymlaen at ei Steddfod gyntaf ers iddi ymddeol yn 2020 – er bod ganddi ambell gwestiwn am rai o’r addasiadau eleni.

“Mae hi wedi bod ychydig bach yn anodd ailgodi pethau,” meddai Leah Owen, y gantores o bentref Prion ger Dinbych sy’n adnabyddus drwy Gymru am ddysgu partïon a chantorion i ganu. “Mae’r Urdd wedi gweithio’n galed iawn i drio trefnu a chael pethau mewn ffyrdd gwahanol.”