Mae Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth wedi galw ar Lywodraeth Cymru “i ddod a’r sgandal” o wrthod ceisiadau gan rieni sy’n gofyn am ddiagnosis o awtistiaeth i’w plant “i ben”.

Dros y penwythnos datgelodd papur newydd The Observer fod ffigyrau yr oeddynt wedi eu derbyn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos fod plant awtistig yn gorfod aros hyd at bum mlynedd am ddiagnosis gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.