Lefelau uchel o wrtaith sy’n cynnwys cemegolion yn llifo i mewn i’r afon o’r tir gan achosi i blŵm algaidd ffynnu

Mewn ymgais i daclo’r llygredd yn Afon Gwy ar ochr Lloegr mae Asiantaeth yr Amgylchedd yno wedi datgelu y bydd eu swyddogion yn ymweld â 150 o ffermydd Swydd Henffordd yn ystod mis Mawrth.