Wedi’r ymgyrchu a’r pleidleisio mae aelodau newydd o’r Senedd Ieuenctid yn ymgynnull i gyfarfod am y tro cyntaf ar derfyn yr wythnos hon, a hynny tros y We ar 18 ac 19 Chwefror, wedi iddyn nhw gael eu hethol ar-lein.

Gyda Chymru’n parhau i droedio trwy’r pandemig, effeithiau Covid-19 sydd ar flaen meddyliau’r to ifanc gydag addysg ac iechyd meddwl yn ddau bwnc sydd ar frig yr agenda aelodau’r Senedd Ieuenctid.