Dros fisoedd y pandemig mae patrymau gweithio’r genedl wedi gweddnewid a bellach mae yna gwestiynau sylfaenol yn cael eu holi am weithio’n hybrid yn barhaol a chwtogi’r wythnos waith.

Ac yn ôl un cyn-Aelod o’r Senedd mae’r pandemig nawr yn gyfle i addasu’r modd mae gwleidyddion y Bae yn gweithio, a hynny drwy ganiatau rhannu swydd.