Fe daniwyd y tymor seneddol gyda’r sôn bod trafodaethau ar y gweill rhwng Llafur a Phlaid Cymru, a bellach mae yna ddigon o sïon a sibrwd dros beth fydd yn cael ei gynnwys mewn cytundeb posibl rhwng y ddwy blaid.

Daeth y cyhoeddiad yn syndod i nifer yn y Bae, ac mae’n debyg fod unrhyw sôn am gytundeb wedi ei gadw’n gyfrinachol ers peth amser.