Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf…

Cynlluniau ar gyfer trac beicio ym Methesda

Mae Partneriaeth Ogwen yn gobeithio cymryd prydles ar ddarn o dir yn hen Chwarel Pantdreiniog, uwchben y Stryd Fawr ym Methesda.

Mae’r hen chwarel hon bellach yn ardal eang uwchben maes parcio, ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i weithio gyda’r Bartneriaeth i greu trac cymunedol fydd ar gael yn rhad ac am ddim yng nghornel isaf y safle hwn.

Ewch i Ogwen360 i ddarllen mwy ac i roi eich barn am y datblygiad.

Cynlluniau ar gyfer trac beicio

Tom Simone

Rhowch eich adborth ar y syniad o ddatblygu trac ‘pwmp’

Golau gwyrdd i ddatblygiad tai Pen-y-ffridd

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi caniatáu apêl gan gwmni tai Adra, a rhoi’r golau gwyrdd i ddatblygiad o 30 annedd ar dir ym Mhen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd.

Howard Huws sy’n esbonio hanes y cais cynllunio dadleuol ac yn trafod effaith bosib y datblygiad ar yr ardal leol.

Dyma un o’r straeon cyntaf i gael ei chyhoeddi gan bobol Bangor a’r Felinheli ar eu gwefan fro newydd. Cadwch lygad ar BangorFelin360 am y diweddara’.

Blas o’r Bröydd

Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol am eu milltir sgwâr ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf

Llwybr godidog ar gyfer Mis Cerdded Cenedlaethol

O’r olwyn ddŵr hynafol yn Ffwrnes, lan i Gwm Einion i weld “panorama go-iawn” yr arfordir yn ymestyn o’ch blaen. Cylchdaith o ryw 3 ½ milltir sydd dan sylw. Dyma un o hoff wâcs Dana Edwards yn ei milltir sgwâr, ac i ddathlu Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, mae’n rhannu lluniau a chyfarwyddiadau i helpu gweddill pobol y fro i’w dilyn a’i mwynhau.

Oes gennych chi hoff lwybr cerdded? Beth am ei rhannu ar eich gwefan fro er mwyn i fwy o bobol ei darganfod y mis yma?

Mis Mai – Mis Cerdded Cenedlaethol

Dana Edwards

Ar ddechrau mis cenedlaethol cerdded mae Dana Edwards yn ein harwain ar un o’i hoff deithiau 

 

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Cynlluniau ar gyfer trac beicio, gan Calum Muskett ar Ogwen360
  2. Y flwyddyn a fu i gwmni Jenkins o Ffarmers, gan Rhys Bebb Jones ar Clonc360
  3. Y flwyddyn a fu i Gyfreithwyr ADVE, gan Rhys Bebb Jones ar Clonc360