Gall sefydlu tŷ cydweithredol “lenwi’r bwlch” o ran darparu cartref fforddiadwy i bobol sy’n ei chael hi’n anodd mynd ar restrau aros cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, meddai un gweithiwr yn y maes.

Mae Allan Shepherd yn Swyddog Tai Cymunedol gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru – cwmni annibynnol sy’n anelu at helpu cryfhau a grymuso cymunedau drwy gefnogi twf cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol.