Mae Bethan Ruth yn talu £300 y mis i fyw mewn tŷ cydweithredol ym Machynlleth.

Ac mae cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn gweld potensial yn y model yma o gyd-fyw i helpu eraill…

Yn wreiddiol o Firmingham, cafodd Bethan Ruth ei magu yn Nolgellau. Mae’n byw yn Yr Hen Olchdy yn nhref Machynlleth ers saith mis bellach ac yn gweithio i’r Gwasanaeth Tân yng Ngheredigion.