Mae’n bosib y bydd hi’n ta-ta i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, yn ôl pôl piniwn newydd.

Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig bron â diflannu’n llwyr mewn etholiad cyffredinol, meddai’r pôl piniwn gafodd ei gynnal gan YouGov ar ran WalesOnline.

Dangosa’r pôl piniwn y byddai’r Ceidwadwyr ond yn ennill 19% o’r bleidlais, tra bod cyfran Llafur o’r bleidlais wedi codi o 41% yn 2019 i 53% erbyn hyn.

Byddai’r 19% yna’n dal i fod yn uwch na Phlaid Cymru sydd ar 12%.