Rhywbeth fymryn yn wahanol sydd wedi mynd â fy sylw’r wythnos hon. Fel yr awgryma’r teitl, rhaglen Saesneg oedd Searching for my Other Mam ond dyma raglen bwysig o ran arddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw i gynulleidfa y tu hwnt i Gymru. Roedd hi’n rhaglen bwysig am lu o resymau eraill hefyd ond mwy am hynny yn y man.