Bydd pawb sy’n ymddiddori mewn ieithoedd Celtaidd yn cofio Rita Williams a oedd yn ddarlithydd Llydaweg ym Mhrifysgol Aberystwyth hyd nes iddi ymddeol. Pan oedd hi’n gweithio yno, fe gyhoeddodd Eiriadur Cymraeg-Llydaweg. Ar ôl ymddeol, penderfynodd y byddai’n dda o beth i lunio Geiriadur Llydaweg-Cymraeg a’i gyhoeddi ar-lein yn hytrach nag fel copi caled.