Mae degau o filoedd yn dilyn un fam o’r gogledd sy’n giamstar ar greu lliw haul ffug…

Ar ôl cael llond bol ar ffêc tans drewllyd, llawn cemegau, oedd yn cymryd hydoedd i sychu, penderfynodd un fam o’r gogledd fynd ati i greu ei chynnyrch ei hun.

Erbyn hyn mae gan Shoned Owen o bentref Y Ffôr ger Pwllheli dros 30,000 o ddilynwyr ar Instagram ar ei chyfrif busnes, Tanya Whitebits.