Dydy Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, ddim yn cofio adeg pan nad oedd hi’n gwirioni ar lyfrau.

Cydiodd y fan lyfrgell symudol oedd yn ymweld â phentref Talgarreg yng Ngheredigion yn ystod ei phlentyndod yn ei dychymyg, ac mae ei byd yn troi o amgylch llenyddiaeth fyth ers hynny.

Bellach yn byw yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, bydd Lleucu’n gadael Llenyddiaeth Cymru ym mis Mai er mwyn dod yn Gyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.